JWRNAL
Mae fy ffrind da Sarah, h.y. JWRNAL, wedi bod yn gweithio ar nifer o ddigwyddiadau gwahanol yn ddiweddar, o gyhoeddiad printiedig i guradu arddangosfa. Ni’n siarad yn amal am bopeth dan haul, a'm syniad gwreiddiol oedd ysgrifennu ein sgyrsiau, ond fe wnes i sylweddoli fy mod yn defnyddio'r gair 'mate' yn rhy amal a bo’ na lot o siarad wast!! Beth bynnag, anfonais e-bost iddi, a chawsom sgwrs bach mwy difrifol:
Llio- Hi Sarah! Sut wyt? Dwi ddim isie swno fel cwpwl sydd newydd ymddeol, ar fin symud i Landundo, ond ti’n cofio’r tro cynta i ni gwrdd? Yn caffi chwarel, Machynlleth? Pwy byse’n meddwl y byse ni’n holi ti am gyfweliad rhai blynyddoedd yn ddiweddarach!
Dwi’n nabod ti eitha da erbyn heddi, ond dwêd wrthai am dy gefndir, cyn i ti ddecharu Jwrnal?
Sarah- Haia! Ydw, dwi’n cofio, ma amser di hefdan, do? (nawr fi yw’r un sy’n swnio fel cwpwl sydd di ymddeol) Alan James Raddon nath rhoi ni mewn cysylltiad, dwi’n falch ei fod wedi.
Wel, ma fy nghefndir yn dechrau yng Ngoledd Cymru lle gefais fy magu, yna ymlaen i Leeds, Berlin, Efrog Newydd, Llundain a nol i ogledd Cymru lle dwi nawr! Ers graddio dwi di bod yn gweithio yn y byd ffasiwn. Nes i fy BA a MA yn cynllunio i ddynion. Dwi di gweithio i gwmniau fel Topman a Oliver Spencer a gweithio ar fy nghasgliad personol hefyd. Ma’n teimlo fel sbel yn nol erbyn hyn. Yn ystod fy MA wnes ymchwil helaeth i Gymru, dulliau traddodiadol o grefftwaith, sgiliau gwledig, a chwrdd a criw anhygoel o wneuthwyr a phobol creadigol. Dwi wir yn meddwl dyna be’ oedd yr atynfa i symud nôl i ogledd Cymru. Pan symudais nol, edrychais ar yr ymchwil o ni di neud ar gyfer fy MA, a dyna sut ddechreuodd Jwrnal. Ma’n rhyfedd sut ma pethau yn dod nol ar ei hun. Nes di rhwybeth tebyg yn do?
Llio- Do, rhywbeth tebyg. Dwi erioed di cael master plan ac wedi bod yn ddigon hapus i symud neu deithio lle bynnag ma’r cyfloedd yn codi. Ond ma’n ddiddorol bo ni’n dwy di dychwelyd i lle ddechreuodd popeth! Piti bo ni ddim yn NY yr un pryd, alli di ddychmygu, wfff! Beth bynnag, nol i Jwrnal! Ma fel petai pethau yn tyfu bob dydd, sut ddechrudd y cyfan?
Sarah- Heb sylweddoli fe ddechreuodd popeth yn ystod fy ngradd MA. Yn wreiddiol fe ddechreuodd popeth drwy ymchwil (dwi wrth fy modd yn ymchwilio, gyda llaw) O ni’n ymchwilio mewn i hanes celfyddyd, crefft, diwylliant Cymru. Ar y pryd, o ni’n edrych am wneuthurwyr i gydweithio i greu darnau ar gyfer fy nghasgliad MA. Yn y casgliad oedd gen i zips a bathodynnau copr oedd wedi ei neud a llaw, brethyn o felin lleol, basgedi helyg oedd wedi ei gwehyddu mewn i fagiau cefn, bytymau llechu a.y.y.b, O ni’n cwrdd a pobl anhygoel, ac yn mwnhau mynd i gwrdd ar gwneuthrwyr yn ei stiwdio i weld y broses ac dyna sut ddechreudd popeth. Fel rhan o fy ngwaith MA roedd gen i ‘journal’ oedd yn dogfennu ble oedd y cynnyrch wedi ei wneud ac gan bwy. Ath fy ffrind Jac a fi i gymeryd llunaiu or gwneuthrwyr. Dwi’n meddwl mai casglu storiau yw’r bwriad a dwi wrth fy modd yn gwneud hyn. Pan symudais nol rhai blynyddoedd yn nol, roedd hi’n eithaf amlwg bod angen i mi barhau efo’r gwaith yna. O ni’n mwynhau gweithio yn y byd ffasiwn ac do ni byth yn meddwl byswn ni’n symud gatref, ond pam nes i, o ni just eisau cario mlaen ble o ni di dechrau. Cario mlaen efo’r cysylltiadau. Neidias i’r car, ffonio rhai pobl i weld os o ni eisiau cwrdd, a bant a fi ogwmpas Cymru. Os dwi’n onest, does gen i ddim llwybr penodol, ond unwaith i mi gael gwefan a rhoi enw swyddogol iddo, fe daeth popeth yn fyw.
Llio- Dwi’n cofio holi ti pam nathon ni gwrdd gyntaf, be oedd ti eisiau ‘iddo’ fod. Gofynnais os o ti am gyhoeddi jwrnal go iawn (oedd hwn cyn i ti rhoi’r enw jwrnal) neu blog, cylchlythyr, digwyddiad, drycha lle i ni heddiw! Ers i ti ddechrau’r gwefan, be ti di bod lan i?
Sarah- Dwi’n credu mai dim ond cyfrif instagarm oedd gen i pan natho ni gwrdd gynta, bethbynnag ges i foment lle newidiodd tipyn.
Nes i gwrdd a Charlie Gladstone o cawson ni sgwrs ynglyn a be’ o ni lan i. Cynigodd stondin i fi yng y ngwyl Good Life Experience, gan ddweud ei fod e’n hapus i mi wneud be’ bynnag o ni moen. Yn amlwg roedd hwn yn golygu bod rhaid rhoi pethau ‘into action’. Gofynnais i wneuthrwyr ddod ir wyl a gofyn am drawsdoriad o waith. Rhoddais stondyn at ei gilydd ac odd en gret! Yn dilyn hyn rhoddais cylchlythyr misol at ei gilydd, trefnu rhai gwethdai, dwi hefyd wedi trefnu nosweithiau ‘JWRNAL Presents’. Ma’r nosweithiau ‘ma yn rili sbesial, nosweithaiu clyd lle dwi di cael rhai siaradwyr gwadd, gyda tua 40 yn y gynulleidfa,. Yna daeth y penderfynniad mawr o rhai popeth mewn i brint! Ma hyn yn rhywbeth dwi wedi bod eisiau neud ers sbel, Ma’r broses o dod a popeth at ei gilydd wedi bod yn broses hwyliog, ma di bod yn gyffrous i weld popeth mewn print yn hytrach na digidol. Ma fe gyd am storiau am bobl, am lefydd, am bethau, a syniadau- dyna sylfaen popeth dwi’n neud. Dwi di bod mor ffodus i gwrdd a pobl anhygoel ar hyd y ffordd, sy’ di neud y broses mor hwylus ac y gwirionedd yw, may nhw sy’n neud popeth yn hawdd i mi! Ma na gymaint o bethau da yn digwydd, dwi byth di cael cyfnod distaw yn aros i weld be sy’n diwgydd nesaf. Ma pethau fel bo’ nhw’n digwydd yn naturiol. Dwi just yn dod a popeth at ei gilydd, os ma hynny’n yn neud synnwyr?
Llio- JWRNAL #01, ma hwnna yn cool. Ma mor braf clywed bo ti ddim yn stuck am gynnwys, Sut oedd y broses o ddod a popeth at ei gilydd, y lluniau, y sgrifen, y gosodiad. Os da ti gyllun ar gyfer JWRNAL #02?
Sarah- Oedd en gret! Lot o hwyl! Ma na tua 50 o bobl ‘di cyfrannu ir cylchgrawn, naill ai drwy ffotograffiaeth, sgrifennu, illustartions, rysetiau ayyb. Fy rol i oedd dod a popeth at ei gilydd, odd e mor gyffrous pam odd pethau yn lando yn fy inbox. Ges i help gan ffrind anhygoel or enw Fiona, yn y diwedd hi oedd yr editor. Allwn ni wir ddim di neud e hebddi, ac oedd en brofiad lle nes i ddysgu llwyth. Ma’r holl waith sydd wedi ei gynnwys o safon mor uchel, ond i ddod nol i dy gwestwin, wrth gwrs, ma plan yn barod am yr un nesa!
Llio- Greeeeet! Falch clywed fo ti’n meddwl am #02 yn barod. Cyn i ti fynd, dwed wrthai am y digwyddiad diweddaraf?
Sarah- Dwi ‘di curiadu arddangosfa gyda Steffan, Rheolwr Oriel Davies yn Drenewydd. Fe gynlluniwyd y galeri i ddangos 17 o wneuthurwyr o Gymru yn dangos ei gwaith ar broses. Ma’r holl gynnyrch sydd yn yr arddangosfa hefyd ar werth, a ma nhw wir yn ffab. Unwaith eto, oedd hi’n bleser i drefnu’r sioe. Roedd cal dad bacio’r gwaith yn y galeri fel bore dolig, pob 10 munud oedd na ryw wwwww, neu wow! Ma na ffilmiau, ffotograffiau, cynnyrch, ardal i ddysgu fwy o wehyddu, oedd en wych cael fy ngofyn i fod yn rhan or sioe, Rhwybeth byse ni wrth fy modd yn neud mwy ohoni. Ond wrth gwrs rhan gorau’r sioe yw’r carthenni cyfoes gan Llio James (ha!) Ma di neud fi feddwl lot am beth sydd nesaf i Jwrnal, a gennai ryw awydd i gymeryd tim jwrnal mas i weddill y byd. Pwy a wyr! Oedd yr agoriad rhai wythnosau nol, ond dwi dal di blino, ond di bod yn ystyried beth allai neud nesaf, rhwybeth mwy.
Llio- JWRNAL i weddill y byd, fi’n hoffi’r syniad na. Oedd yr agoriad yn wych, a ma’r arddangosfa yn hyfryd. Ti di ffeindio criw da o bobl, dwi wrth fy modd pam da ni’n cwrdd lan.
Ma di bod yn flwyddyn llawn i ti; Jwrnal mewn print, yr arddangosfa, digwyddiadau Jwrnal, Llongyfarchiau mawr i ti ffrind annwyl! Os ma na artist/dylunydd/ sgrifennwyr yn darllen hwn ac byse nhw’n hoffi ymuno a ti ar y siwrne, sut ddylse nhw gysylltu?
Sarah- Diolch ti!! Ti yw poster girl’ Oriel Davies, ti’n gwbod na? Ma’r dwylo’n na’n enwog. Ie, dwi wrth fy modd yn clywed o bobl, e-bost, instagram, be bynnag. Dwi wastad yn edrych am bethau da, ac yn bendant yn barod i glywed syniadau newydd, felly plis, cysyllwtch.
Llio- Diolch, falle welai di’n caffi’r chwarel Machynlleth cyn bo hir?
Sarah- Na, Llanduno ie!
17 Tachwedd 2018 - 30 Ionawr 2019, Oriel Davies Gallery, Y Drenewydd.
“Arddangosfa ydy Creu // Make sy'n archwilio cynhyrchion crefft cyfoes sydd yn cael eu gwneud gan Wneuthurwyr o bob rhan o Gymru, yn defnyddio crefftau gwledig traddodiadol sy’n cynnwys; crochenwaith, gwehyddu, gwneud cadeiriau, celf tecstilau, gwaith coed a mwy. Mae gan Gymru draddodiad cryf o sgiliau crefft, sy'n tynnu ar ein hanes fel lle sy'n creu pethau. Mae'r arddangosfa hon yn archwilio rhai o'r sgiliau anhygoel sy'n cael eu hymarfer ar draws Cymru gan bobl sy'n cadw'r traddodiad hwn yn fy
Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Jwrnal i gefnogi busnesau lleol, creadigol ac annibynnol ar draws Cymru. Yn ystod yr arddangosfa, bydd cyfleoedd i gwrdd â'r gwneuthurwyr, a rhoi cynnig ar rai o'r prosesau maen nhw’n eu defnyddio. Gallai hyn fod yn fan cychwyn ar gyfer datblygu eich gyrfa greadigol eich hun.
Rhannwch eich delweddau chi o’r arddangosfa a’r rheiny sydd wedi cael eu hysbrydoli ganddi, yn defnyddio'r hashtag #MakeWales #CreuDavies a pheidiwch ag anghofio tagio @jwrnal_wales ac @orieldavies
Platfform ydy Jwrnal ('journal') ar gyfer dogfennu a hyrwyddo gwneuthurwyr a chreadigwyr yng Nghymru. Lansiwyd Jwrnal yn yr Ŵyl The Good Life Experience yn 2017 ac ers hynny, mae wedi mynd ymlaen i ddatblygu platfformau ar-lein a ffisegol ar gyfer gwneuthurwyr a chreadigwyr ar draws Cymru.
Wedi'i guradu gan Sarah Hellen a Steffan Jones-Hughes