ALAN JAMES RADDON x LLIO JAMES
Dyma ni’n dechrau ar trydar...
@AlanRaddon: “@lliojames love to make a pair from your cloth”
@lliojames: “aaah yes, I’d love that! Where are you based? Maybe I could come and visit with a few samples?”
@AlanRaddon “Aberarth. Ring me”
A dyna lle ddechreuodd y stori. Ffoniais Alan, ac methu credu fod na grydd yn byw 20 munud i lawr y ffordd.
I'r rhai sydd ddim ‘di bod i Aberarth, ma’r lle tebycaf i Llaregub. Ar fore niwlog yng nghanol mis Ionawr dwi’n siŵr welwch chi Captain Cat yn ei ffenest. Mae'r pentref bach yn eistedd yn dwt ar waelod y llethr. Dilynwch y llwybr tuag at y môr, ac yna fe welwch dŷ Alan. Ar ôl siarad am ei oriel ‘sgidiau ar y grisiau, buom yn siarad am y broses o greu'r ‘shandals’, pryd ddechreuodd a pham. Edrychodd drwy y samplau o ddefnydd oedd gennai a chymerodd tua 50cm o ffabrig DYFI. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach cefais text yn dweud fod fy ‘shandals’ yn barod. Anhygoel!