Gardd y Gaeaf - Oriel Mission

23 Tachwedd - 04 Ionawr 2020

Lawr un o strydoedd cefn Abertawe mae ‘na le arbennig. Mae Oriel Mission yn cynnal amrywiaeth o arddangosfeydd mewn gofod bendigedig sy’n agos attoch. ‘Mae Oriel Mission yn un o’r llefydd mwyaf ysbrydoledig yng Nghymru am Gelfyddydau cyfoes. Gwagle unigryw, sydd yn bensaernïol brydferth, adeilad sydd yn adnodd cyfoethog i’r gymuned leol ac ehangach yn darparu cyfleoedd arddangos i artistiaid ar bob lefel a phrofiad, wrth ddatblygu mwynhad, deallusrwydd a gwybodaeth celf ein cynulleidfaoedd.’

Y Nadolig hwn yr arddangosfa yw GARDD Y GAEAF. Yn cynnwys gwaith gan Eluned Glyn, Sally Hands, Mandy Coates, Diane Horne, Buddug Humphreys, Fflur Owen, Caroline Rees, Rhiannon Gwyn, Lillemor Latham a fi! “Arddangosfa grefftau sy’n dathlu lliwiau a phatrymau cyfoethog bore oer a ffres ym mis Rhagfyr – dyddiau byrion, dechrau niwlog i’r diwrnod a bysedd rhewedig. Mae’r gweadau, lliwiau a phatrymau a welir mewn gardd farugog yn cael eu hadlewyrchu yma. O dorluniau pren unlliw a gwaith lledr cerfluniol i fasgedwaith a gwaith enamel, ymlwybrwch drwyddynt gan fwynhau’r lleoliad llonydd yma. Arddangosfa Nadoligaidd dawel.”

Abertawe, lle arbennig! Werth nodi Oriel Mission fel lle i ymweld gaeaf yma. Gallwch weld fy mufflers, carthenni a chlustogau newydd yn yr arddangosfa nadolig hon.

Wedi ei ddechrau gan artistiaid yn 1977 fel ‘Oriel Gweithdy Gelf Abertawe’, mae Oriel Mission ers hynny wedi datblygu enw da’n genedlaethol a rhyngwladol am arddangos rhaglen ddeinamig a gwahanredol. Gyda hanes ardderchog am ddarpariaeth dros ddeugain mlynedd ac enw da am gefnogi a meithrin artistiaid, mae Oriel Mission yn cymryd risgiau; gan ddangos gwaith uchelgeisiol, amrywiol o artistiaid sefydledig ac ymddangosedig, o Gymru ac ymhellach, ac ar draws pob disgyblaeth.

Wedi ei ymgartrefi mewn adeilad hanesyddol Gradd ll yn Ardal Forol Abertawe, dechreuodd Oriel Mission ei fodolaeth fel corff gwirfoddol wedi'i rhedeg gan artistiaid, gan esblygu i sefydliad proffesiynol a ariannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2003. Fe’i rheolir gan fwrdd gwirfoddol o gyfarwyddwyr, cynhelir y goruchwylio, rhaglennu a rhedeg gan dîm bach a chysegrol staff a gwirfoddolwyr.

1868-St Nicholas Church, a non-denominational Seaman's Mission built by Benjamin Bucknall.
1977-Swansea Arts Workshop opened to the public as anArtGallery, including exhibition and workshop space. It was run by volunteers as part of the Association of Artists & Designers (AADW).
1992-Swansea Arts Workshop became an independent gallery.
1998-Swansea Arts Workshop adopted the name Mission Gallery. Promoted as a Crafts Council Selected Gallery.
2003-Becomes a revenue client of the Arts Council of Wales (ACW) receiving core funding for its exhibition programme, plus the first two salaried posts in its history.
2008-Constituted as a not-for-profit organisation.
2011
-Mission Gallery receives an uplift in its core funding from the ACW.
2012-Acquisition of 1st floor of St. Nicholas' Church. A 30 year lease is signed with City & County of Swansea for the whole building.
2012-ACW funding for the remedial repair and development of the 1st floor into a dedicated education space.
2013-Mission Gallery undergoes a Feasibility Study funded by ACW to explore the possibility of a Major Capital Redevelopment.
2015-Mission Gallery receives significant ACW funding for two major projects; our flagship, cross county education programme, Criw Celf West and a National Touring Exhibition The Language of Clay. Both projects now guaranteed until 2019.
2016-Important collaborations, projects and exchanges developed with cultural organisations in New York and Venice, building Mission Gallery’s international work work through programming, partnerships and residencies.
2017-Mission is 40! Mission Gallery celebrates its 40th birthday with an exhibition and fundraiser with our Staff, Board, Volunteers, Friends, Partners and Artists.

Previous
Previous

AELWYD - Craft in the Bay

Next
Next

Urdd Gwneuthurwyr Cymru