GWNEUD
01. Y man cychwyn yw mesur yr ystof (yr edau sydd yn rhedeg ar hyd y gwŷdd) Gall yr ystof fod mor hir a dwi eisiau, ond mae angen ei fesur ar ‘warping mill’. Mae hyn yn caniatáu i mi gadw’r tensiwn a sicrhau bod pob edafedd yr un hyd. Yna cylchdroi’r ‘warping mill’ o’r top i’r gwaelod a chyfri pob edafedd.
02. Dwi’n cyffwrdd pob darn o’r edafedd efo fy nwylo, pob darn yn llithro trwy fy mysedd, gan adeiladu'r brethyn gyda fy mysedd.
03. Ar ôl mesur yr ystof, mae'n fater o symud yr edafedd o’r ‘warping mill’ i’r gwŷdd, dwy fodfedd ar y tro.
04. Mae pob edafedd o’r ystof wedi ei fesur ac yn eistedd ar gefn y gwŷdd. Nawr yw’r amser i fwydo pob edafedd unigol drwy lygad bach yr ‘heddles’ ( dwi wedi clywed y gair brwyd neu cribwyr yn lle ‘heddle’, unrhyw sylwadau, cysylltwch?) Mae’r ‘heddles’ yn hongian ar bob siafft; gan wahanau’r ystof i ganiatáu i’r ystof godi.
05. Mae'r cyrs (dychmygwch grib) yn eistedd yn y ‘beater’. Mae pob edafedd yn cael ei fwydo drwy'r gofod yn y cyrs. Mae hyn yn gwahanu'r ystof i'w led llawn o chwe deg modfedd.
06. Mae'r ystof wedi ei fesur, di weindio i gefn y gwŷdd, pob edafedd wedi‘u fwydo trwy’r ‘heddles’, yna drwy'r ‘reed’, ei glymu ac yna o’r diwedd, dwi'n gwehyddu. Mae’r bobbin yn eistedd yn y wennol a gyda phob pas dwi'n taflu'r wennol o ochr i ochr, gan wehyddu drwy'r ystof. Yn araf bach mae’r brethyn yn cael ei greu.
Does dim lle i gamgymeriad. Does dim lle i ruthio. Pob cam yr un mor bwysig.