BAGIAU A BOCSYS
Pwy sydd ddim yn mwynhau agor pecyn anisgwyl neu bocs o rywbeth newydd sbon?! Boed yn focs siocled chi ‘di bod yn cadw nes pnawn ‘dolig neu'r amlen efo llawysgrifen newydd sy'n disgyn trwy'r drws. Hyd yn oed os chi'n gwybod be’ sydd o dan yr holl haenau, mae'r boddhad o dynnu sticer i ffwrdd mewn un darn yn… lawenydd pur. Nawr, y gamp odd dod â'r llawenydd yna wrth i chi agor un o'm pecynnau; y teimlad ‘na, AAAARGH mae ‘di cyrraedd!
Dwi'n gobeithio ein bod ni mewn oes lle ma angen rhoi wir ystyriath i ba ddefnydd da ni’n dewis i bacio ein cynnyrch. Gwlân naturiol yw’r carthenni a chlustogau sydd genna i, felly dwi am ddefnyddio bag neu bocs papur. Yn amlwg, ma’ na nifer o resymau am hyn, ond un prif reswm yw bod rhaid i ni GYD leiahau ar y plastig yn y byd ‘ma. Doedd hi ddim yn hawdd dod o hyd i'r bag efo’r dimensiynau cywir, yn yr deunyddiau cywir a'r nifer cywir, ond ar ol sbel fe ges i hi! Y bag papur perffaith yn ddelfrydol ar gyfer dal y nwyddau gwerthfawr. Mae gen i’r bag, nawr i'w gwneud ychydig yn llai tebyg i sach!
Y ffeithiau:
- 3 ‘ply’ gan wneud y bag yn gryf ac yn berffaith i'w ailddefnyddio fel sach storio
- Bioddiraddadwy
- Ailgylchadwy
- Polyester / Viscose yw’r pwytho
Nawr y dasg odd gwenud hi’n ddigon clir bo’ chi’n gwybod o ble odd y bag di dod. O ni eisiau rhoi fy marc, fy stamp, fy llofnod ar y bagiau. Roedd argraffu delwedd o flaen llaw am ychwanegu £££ ir broses. Gyda rhyw grafu pen death y syniad o brintio’r bagiau fy hun! Mae’n bosib gweld or videos uchod, dwi ddim yn brintiwr profiadol na naturiol, ond o ni wrth fy modd. O ni’n mwynhau cymryd peth amser i ffwrdd o'r gwŷdd i brintio pob bag neu focs unigol â llaw. Roedd codi y sgrin yn dangos print gwahanol bob un tro. Nid yw bob un wedi eu hargraffu'n llawn, gan ychwanegu stamp unigryw i orffen y cynnyrch terfynol. Ar ôl argraffu fy enw, gadael iddyn nhw sychu, es i ymlaen i argraffu'r atalnod llawn yn goch.
Wrth iddyn nhw wneud eu ffordd dros y byd, rydw i’n wir gobeithio y cewch chi'r llawenydd yna pan fydd y pecyn yn cyrraedd. Ond yn fwy na hynny dwi’n gobeithio gall y bag cael ei ail ddefnyddio. Sach yng nghornel ‘stafell yn dal teganau, neu ei ail ddefnyddio i lapio anrheg gwerthfawr arall. Ma nifer ohonom yn rhwygo bagiau ar agor a’i taflu yn y bin, ond gwnewch yn siwr i gadw’r un yma.