GWANWYN 2020
Yn araf bach dwi’n credu ein bod ni’n sylweddoli effaith Covid 19 ar draws y byd. Dwi wedi chael hi'n anodd ffeindio’r geiriau sydd yn fy mhen ar hyn o bryd. Does gen i ddim y geiriau na’r sgil, ond un sgil sydd gennai yw i ddylunio a gwenud pethau cywrain, ac am y tro mae'n rhaid i mi ganolbwyntio ar hynny. Rwy'n dylunio ac yn gwneud pethau hardd, ond yn bwysicach fyth rwy'n gwneud cynnyrch yw cael ei defnyddio, ac i gael ei basio o genhedlaeth i genhedlaeth. Nid blancedi wedi'u gwehyddu â llaw yw’r pethau pwysicaf ar hyn o bryd, ond byddaf yn parhau i ddylunio, ac am nawr mae'n rhaid i ni gyd gymryd bob dydd fel y daw.
Dwi wedi gweld hi’n anodd i feddwl peth yw’r ffordd gorau ymlaen yn y cyfnod od ‘ma. I mi, roedd yn rhaid i mi stopio am eiliad. O ni’n teimlo’r pwysau i lawnsio rhywbeth arloesol, rhywbeth cyffrous, ai rannu ar-lein, ond o ni methu. Diolch byth oedd gen i un pot o inc glas, ac wrth ddechrau peintio, o ni ond yn gallu meddwl am pa mor ffodus ydw i. Dwi’n ddiolchgar am fy iechyd, dwi’n ddiolchgar i weld yr awyr las hudolus. Dwi’n ddiolchgar fy mod i'n cael gwneud yr hyn dwi’n ei garu pob dydd. Dwi’n ddiolchgar am bawb sydd wedi hoffi, gwneud sylw, e-bostio, cefnogi neu prynu fy ngwaith. Dwi’n ddiolchgar am yr holl bobl hynod o cŵl sydd gen i o'm cwmpas.
Mae'r cardiau post bach yma yn mynd allan at y pobl dwi angen ei diolch. Diolch am fy nghefnogi, diolch am fy ysbrydoli, diolch am fod yn fy myd bach a diolch am yr eiliad i stopio. Gofalwch am eich hun a pawb o'ch cwmpas.