EISTEDDFOD AmGen 2021 - Y Lle Celf

 

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant a’r iaith yma yng Nghymru ac fe’i chynhelir yn ystod wythnos gyntaf Awst bob blwyddyn. Mae'r ŵyl yn teithio o le i le, gan ymweld â gogledd a de Cymru bob yn ail, a denu tua 150,000 o ymwelwyr a thros 250 o stondinau. Yn draddodiadol, mae’r Eisteddfod yn ŵyl gystadleuol, sy’n denu dros 6,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn.  Mae'r ŵyl ei hun wedi datblygu ac esblygu dros y blynyddoedd diwethaf, ac er bod y cystadlaethau yn ganolbwynt canolog ar gyfer yr wythnos, mae'r Maes wedi tyfu i fod yn ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer y teulu cyfan.

Yr Eisteddfod yw’r ffenest siop berffaith i gerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, perfformiadau gwreiddiol a llawer mwy. Gan gwmpasu pob agwedd ar y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, mae'n ŵyl gynhwysol a chroesawgar, sy'n denu miloedd o ddysgwyr Cymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad yr iaith, yn ogystal â siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn. 

Eleni, fel gymaint o ddigwyddiadau eraill, fydd ‘steddfod yn mynd yn ddigidol- Eisteddfod AmGen! Trwy glicio botwm byddwn yn gallu mynd yn syth i'r pafiliwn celf, sef 'Y Lle Celf'. Rwyf wrth fy modd i gael fy ngwaith wedi'i ddewis i fod yn rhan o'r arddangosfa rhithiol eleni. Dwi byth di arddangos yn ‘steddfod or blaen, ac yn neud ‘debut’ mewn ffordd eitha sbesial!! Diolch i ‘4pi Productions’ am wneud y profiad o fod yn Dregaron mor hawdd a clicio botwm. Gobeithio fydd en gyfle i’r byd weld gwaith bendigedig rhai o grefftwyr ac artistiad o Gymru. Linc i'r arddangosfa ddigidol yma https://eisteddfod.cymru/amgen-2021-lle-celf-arddangosfa neu cymerwch olwg ar y fideo cyflym isod.

“Eleni, bu'r trefnwyr yn gwahodd artistiaid i gyflwyno eu gwaith ar gyfer yr arddangosfa, gyda thri detholwr yn asesu’r ceisiadau ac yn dewis eu ffefrynnau er mwyn eu cynnwys yn yr oriel.

Gweithiodd Gwenno Angharad, Aled Wyn Davies a Carwyn Evans, sydd rhyngddynt yn cynrychioli ystod eang o ddisgyblaethau, gyda'r tîm yn 4Pi, i greu arddangosfa uchelgeisiol a deniadol gyda chyfuniad cyffrous o artistiaid newydd a sefydledig.

Yr artistiaid eleni yw Manon Awst, Siân Barlow, Ann Catrin Evans, Gwen Evans, Kate Fiszman, Rhiannon Gwyn, Kate Haywood, Llio James, Karolina Jones, Rhys Bevan Jones, Roger Lougher, Karen McRobbie, John Gareth Miles ac André Stitt.”

 
Previous
Previous

O DAN Y GORCHUDD - Oriel Davies

Next
Next

O DAN Y GORCHUDD - Llantarnam Grange