O DAN Y GORCHUDD - Llantarnam Grange

 

28 Tachwedd 2020 - 30 Ionawr 2021

Dwi’n aml yn meddwl am pwysigrwydd tecstilau yn ein bywydau. Un or pethau cynta’ i ni deimlo fel babi, ni'n gwisgo dillad wrth ymyl ein croen yn ddyddiol, ma’n dod a cysyr i’n cyrff. Mae tecstilau a gwead ym mhobman ac o ddydd Sadwrn Tachwedd 28 fydd cyfle i chi weld rhai o garthenni mwyaf chwaethus sydd yw gael ar hyn o bryd. Bydd arddangosfa O DAN Y GORCHUDD yn agor yng Nghanolfan Gelf Llantarnam Grange. Curadur gan Laura Thomas sydd yn wehyddwraig o fri. Mae'n gasgliad fendigedig o flancedi hardd, gwnewch yn siwr eich fod yn trio ymweld a Chwmbran.

Rydym ar ben ein digon o gael croesawu Laura Thomas yn ôl. Mae'n artist, dylunydd, curadur ac yn addysgwr Cymreig sydd wedi cyfrannu, ac wedi curadu nifer o arddangosfeydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange o'r blaen. Mae angerdd Laura dros wehyddu yn amlwg yn ei gwaith ei hun, a hefyd yn y ffordd mae'n eiriol dros ei chyd-wehyddion. Mae O Dan y Gorchudd yn arddangosfa o flancedi wedi'u gwehyddu cyfoes a guradwyd gan Laura ac sy'n cynnwys gwneuthurwyr o bob rhan o Gymru, y DU ac o bedwar ban byd.

Mae eu dehongliadau o flancedi yn estyn ffiniau gwehyddu â llaw traddodiadol, am eu bod yn dylunio ar gyfer cynhyrchu masnachol ynghyd â mynd i'r afael â materion cynaliadwyedd. Mae sgiliau traddodiadol fel gwehyddu mewn perygl o ddiflannu wrth i'r galw amdanynt ostwng yn yr oes ddigidol. Mae'r bygythiad i'r sgiliau hyn, a fyddai gynt yn cael eu haddysgu yn y cartref neu yn yr ysgol, yn cael effaith niweidiol nid yn unig ar y diwydiannau creadigol – mae gweithwyr proffesiynol meddygol hyd yn oed yn dweud eu bod wedi gweld gostyngiad yn y sgiliau corfforol sy'n hanfodol mewn llawfeddygaeth.

 Mae'r gwneuthurwyr yn yr arddangosfa hon yn sicrhau bod crefftau traddodiadol yn parhau nid yn unig i oroesi ond hefyd i ffynnu, gan ddathlu ac arloesi yn y traddodiad cyfoethog o gynhyrchu blancedi gwlân. Mae'r sgiliau, traddodiadau a'r symbolaeth sydd wedi'u lapio mewn blancedi yn eu gwneud yn eitemau gwerthfawr ym mhob cartref, yn ddarparwyr cysur a chynhesrwydd sy'n cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Yn cynnwys: Llio James, Beatrice Larkin, Angie Parker, Eleanor Pritchard, Sioni Rhys Handweavers, Catarina Riccabona, Margo Selby, Maria Sigma, Wallace Sewell, Meghan Spielman, Laura Thomas & Melin Tregwynt

 
Previous
Previous

EISTEDDFOD AmGen 2021 - Y Lle Celf

Next
Next

SYMUD ‘MLAEN