SYMUD ‘MLAEN

Erbyn Hydref 2019 roedd fy ‘mren’ yn dechrau rhedeg. Doedd dim penodol yn bod, ond oedd rhywbeth ddim yn iawn. Roedd bywyd Aberystwyth moooor braf...dymunol... hawdd; nofio yn y môr 2 funud or drws ffrynt, stiwdio yn yr atig ychydig fetrau o fy ystafell wely, roedd bywyd yn ddigon da, ond, roedd yn dechrau teimlo ychydig yn......neis!

(Am eiliad. Credwch chi fi, dwi’n hynnod o ymwybodol o ba mor ffodus ydw i i allu dweud hynny, ac yn ddiolchgar am hynny, am byth.)

Roeddwn i angen newid, ddim yn siŵr ym mha fformat…lle newydd, her newydd, ond unwaith o ni ‘di ‘neud y penderfyniad oedd popeth yn ymddangos bach yn haws.
Gyda’ rhai pethau yn disgyn i'w lle, penderfynais symud i Gaerdydd. Roeddwn wedi byw yng Nghaerdydd cwpwl o weithiau dros y blynyddoedd a bob tro yn teimlo’n gartrefol, ac i fi, teimlad bod gan y ddinas gydbwysedd perffaith o amrywiaeth, creadigrwydd, gofod gwyrdd a phobl da.

Symudais i Gaerdydd ddechrau mis Chwefror 2020, ac roeddwn i'n dechrau setlo yn y lle newydd. Llwyddais i ddod o hyd i stiwdio sy’n gallu dal y gwŷdd (mae’n dal i lenwi pob cornel) a hefyd gofod i ddylunio a darlunio. Sain meddwl bod unrhyw un ohonom wedi rhagweld beth oedd gan 2020 ar y gweill, a phe bai rhywun wedi fy rhybuddio ymlaen llaw o'r hyn oedd i ddod, pwy a ŵyr a fyddwn i wedi symud i ddinas fywiog. Ond hei ... dyna i ni erbyn hyn.

Gyda chyfyngiadau teithio o fewn Cymru, bu’n rhaid i mi eistedd yn dynn am ychydig cyn teithio i fyny i Aberystwyth i nol y gwŷdd . Roedd angen datgymalu’r gwŷdd, dod ag ef i lawr 4 rhes o risiau, i mewn i’r fan, ac nol lawr yr A470.

Cymerwyd y fideos byr hyn tra'n eistedd yn dynn dros fisoedd yr haf. Roedd y rhan fwyaf o fy ‘stwff’ dal yn Aberystwyth, felly roedd hi’n amser i fanteisio ar y gofod newydd, defnyddio’r golau i dynnu lluniau, a chynllunio.
Mae pethau’n newid yn wythnosol a does neb yn gwybod beth sydd o’n blaen, ond daeth y penderfyniad o symud ar yr amser iawn i mi, ac rwy’n gyffrous i weld beth fydd yn digwydd yng Nghaerdydd. Gobeithio, un diwrnod yn fuan, gallaf agor drws y stiwdio a’ch croesawu chi i gyd i’r gofod newydd.

Previous
Previous

O DAN Y GORCHUDD - Llantarnam Grange

Next
Next

TO COCH