Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 : Lle Celf + Artisan

 

Eisteddfod Genedlaethol Cymru 30.07 - 06.08.2022

Treuliwyd yr wythnos ddiwetha’ yn siarad, yn dangos ac yn gwerthu fy ngwaith yn Nhregaron. Dwi’n siwr byse rhai yn dadlau mai Tregaron yw canol y bydysawd, ac i fod yn deg roedd hyn yn wir am wythnos diwetha’. Roedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregraon, ac rhag ofn bod rhai ohonoch chi byth wedi clywed am yr Eisteddfod Genedlaethol , dyma ni'n….. Mae'n ŵyl ddiwylliannol hollol unigryw, sy'n dod â cherddoriaeth, llenyddiaeth, dawns, theatr a chelf weledol at ei gilydd dros 8 diwrnod. Mae’r ŵyl yn symud lleoliad bob blwyddyn, felly mae’r ardal leol yn codi arian a pharatoi ar gyfer yr ŵyl. Mae’r holl sgyrsiau, cerddoriaeth, darlithoedd, perfformiadau theatr, cystadlu yn digwydd yn Gymraeg, mae’n bleser pur cael bod yn rhan o’r holl beth. Dathliad gwirioneddol o'r iaith Gymraeg a'i diwylliant.

Hwn oedd y tro cyntaf i mi gael stondin yn y pafiliwn Artisan a dangos fy ngwaith yn y ‘Lle celf’ @yllecelf (y pafiliwn celf). Y tro cyntaf i'r ddau, felly roedd yr emosiynau i gyd dros y lle cyn i mi osod fy stondin.

 

Yn ogystal â chael stondin yn y babell Artisan, roeddwn wrth fy modd i fod yn dangos fy ngwaith yn y ‘Lle celf’ @yllecelf. Y ‘Lle Celf’ yw’r pafiliwn celf/arddangosfa gelf dros dro fwyaf yn Ewrop. Mae artistiaid, dylunwyr, crefftwyr a phenseiri yn ymgeisio i ddangos eu gwaith yn y ‘Lle Celf’. Ar gyfartaledd mae tua 2,000+ o artistiaid yn ymgeisio gyda’r broses dethol yn dibynnu ar y pwyllgor o ble mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal y flwyddyn honno. Hefyd, mae yna gyfle i ennill gwobrau fel y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, Medal Aur am Grefft a Dylunio, Medal Aur am Bensaernïaeth, Ysgoloriaeth Artist Ifanc, Ysgoloriaeth Pensaernïaeth a llawer o wobrau eraill.

Roedd cael fy newis i ddangos fy ngwaith yn fraint enfawr ac roedd y gyfle i ddangos fy ngwaith gyda chymaint o artistiaid eraill yn gyffrous! Wn i ddim am unrhyw ddigwyddiad arall lle mae’n bosib gweld gymaint o’r celfyddydau o fewn un safle mewn un wythnos. Os nad ydych wedi ymweld, gwnewch…..mae’n fendigedig!

Previous
Previous

CRAFT FESTIVAL: CHELTENHAM

Next
Next

Preswyliad ALISON MORTON yng Nghanolfan Grefft Rhuthun