CRAFT FESTIVAL: CHELTENHAM

 

Tachwedd 26 + 27 2022, Neuadd y Dref Cheltenham.

Nes i gais i ddangos yn yr Ŵyl Grefftau yn Cheltenham yn 2021, ond fel gymaint o ddigwyddiadau eraill fe’i ohiriwyd am flwyddyn oherwydd Covid. Dyma ni, flwyddyn yn ddiweddarach, yn falch o weld digwyddiadau yn ôl ar yr agenda!

O ni’n meddwl byddai cael blwyddyn i baratoi ar gyfer sioe yn golygu y byddwn i yn fwy trefnus nag erioed…..ond na, ddim tro hyn! Fodd bynnag, o ni wedi bod yn brysur yn gwehyddu mufflers a chlustogau newydd ar gyfer y sioe ac yn gyffrous i fod yn dangos, ac fel arfer yn hapus iawn i siarad a chwrdd â phobl newydd.

Cefais benwythnos prysur ac yn hynod ddiolchgar i bawb ddoth draw ir stondin, i siarad neu i brynu. Highlight y penwythnos oedd cael gwobr ‘Best New Business’. Roeddwn wrth fy modd, ac yn ddiolchgar iawn i Sarah James (y trefnydd) a'i thîm am y wobr. Maent yn gweithio'n anghredadwy o galed i drefnu a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau unigryw sy'n dod ag amrywiaeth wych o wneuthurwyr o bob rhan o'r DU ynghyd. Fy ngwobr oedd proffil ar y safle ‘Find a Maker’ sy’n cael ei redeg gan yr Ŵyl Grefft. Diolch!

 
Previous
Previous

Llif / بہاؤ / Flow

Next
Next

Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 : Lle Celf + Artisan