Llif / بہاؤ / Flow

 

09 Ionawr - 25 Chwefror 2023 Mission Gallery

“Mae Llif/ بہاؤ/ Flow yn brosiect cyffredinol sy’n cynnwys pum menter ymchwil benodol. Er eu bod fel arfer yn gweithio ar wahân i’w gilydd, daeth pum artist o Bacistan at ei gilydd yn benodol i archwilio cysylltiadau diwylliannol gyda phum ymarferydd creadigol o Gymru. Mae pob menter wedi cael ei chyflawni’n ddigidol ac wedi datblygu’n wahanol o ran deinameg.

Dros y misoedd diwethaf rydw i wedi bod yn cael cyfarfodydd zoom gyda Zohra, artist gweledol, peintiwr ac addysgwr o Islamabad, Pacistan. Daeth y cysylltiad rhwng Zohra a mi oherwydd y prosiect hwn, byse ein bywydau ddim wedi cyfarfod heb y prosiect yma, pa mor cŵl yw hynny? Roedd gan Zohra ddiddordeb mewn tecstilau Cymreig ac eisiau gwybod mwy am hanes tecstilau. Roeddwn i eisiau gweld a oedd yna gysylltiad rhwng tecstilau Cymru a Phacistan, boed hynny trwy batrwm, dyluniad, deunydd neu wneud.

Roedd hi’n ‘tricky’ cwrdd â pherson newydd trwy'r sgrin ond roedd Zohra yn gynnes, yn hwyl, llawn chwilfrydedd ac roedd y sgwrs yn llifo. Trafodon ni sut ma’n bywydau ni’n debyg ond hefyd mor wahanol, pam o ni’n gwneud ein gwaith ac sut, beth sy’n ein hysbrydoli ni, ein teuluoedd a phopeth arall. Daethom o hyd i ffyrdd o rannu delweddau, a dechreuom weld sut y gallai ein gwaith creadigol ddod at ei gilydd.

Roedd gen i ddiddordeb unwaith i Zohra son am gwiltiau Ralli (cwiltiau traddodiadol wedi’u gwneud â llaw gan ferched gan ddefnyddio technegau fel applique neu frodwaith) Roedd y siapiau bold, y pwythau bach, y cymysgedd o frethyn i gyd yn gyfarwydd i mi, ond roedd clywed sut roedden nhw’n cael ei gwneud ym Mhacistan yn hollol newydd i mi.

Mae'r gwaith a ddangosir yn Oriel Mission yn ddogfen o'r gwaith ar y gweill rhwng Zohra a minnau. Mae’r ddwy o ni yn dal i weld sut y bydd ein gwaith creadigol yn cyd-fynd. Mae Zohra wedi rhannu darnau brodwaith, ac rydw i wedi dechrau ymateb i ddelweddau cwiltiau Ralli. Dwi’n edrych’ ymlaen i weld sut y bydd ein perthynas greadigol yn datblygu.

 

“Dechreuodd Flow | Llif fel cydweithrediad digidol rhwng artistiaid o Bacistan a Chymru. Bydd y dilyniant yn golygu y bydd rhai o’r artistiaid yn teithio i weithio gyda’i gilydd. Fel rhan o hyn, bydd Mission yn cyflwyno arddangosfa o waith newydd a chanfyddiadau ymchwil cydweithredol yr artistiaid. Byddwn hefyd yn cynnal cyfnod preswyl yn yr oriel a fydd yn arwain at berfformiad cyhoeddus ym mis Ionawr ac yn cyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau artistiaid, gan gynnwys darlleniadau a gweithdai.

Mae’r gwaith sy’n cael ei rannu ym mis Ionawr a mis Chwefror yn deillio o gydweithrediad digidol y deg artist, eu hymchwil a’u datblygiad ar y cyd o agweddau ar eu harferion creadigol. Mae’n gyfle i rannu’r gwaith newydd hwn â’n cynulleidfaoedd a gwahodd pobl i ryngweithio â’n cymunedau lleol.

Mae’r deg artist yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaethau creadigol. Mae pob partneriaeth wedi bod yn archwilio meysydd ymarfer gwahanol iawn, gan gynnwys coreograffi a pherfformio, gweithiau sain, traddodiadau tecstilau, ffilmio 3D, barddoniaeth a pheintio.

Dyma'r artistiaid sy’n cymryd rhan:

Ayessha Quraishi a Mererid Hopwood

Maheen Zia a Ingrid Murphy

Rameesha Azeem a Eddie Ladd

Shanzay Subzwari a Lauren Heckler

Zohra Amarta Shah a Llio James

Mae Flow yn brosiect cyffredinol sy’n cynnwys pum menter ymchwil benodol. Er eu bod fel arfer yn gweithio ar wahân i’w gilydd, daeth pum artist o Bacistan at ei gilydd yn benodol i archwilio cysylltiadau diwylliannol gyda phum ymarferydd creadigol o Gymru. Mae pob menter wedi cael ei chyflawni’n ddigidol ac wedi datblygu’n wahanol o ran deinameg.

Mae Flow yn parhau i fod yn gyfrwng ar gyfer ymchwil a datblygiad parhaus y pum artist a fu’n cydweithio â’i gilydd. Erbyn hyn, mae Flow hefyd yn helpu i gyd-greu a chyd-gynhyrchu agweddau ar yr hyn sydd wedi cael ei archwilio rhwng ymarferwyr o Bacistan ac o Gymru.

Mae Oriel Mission yn falch iawn o gael hwyluso a chefnogi’r cydweithio traws-ddiwylliannol archwiliadol hwn.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan y Cyngor Prydeinig ac yn rhan o raglen Bacistan/Persbectifau Newydd y DU y Cyngor Prydeinig i ddathlu 75 mlynedd o Bacistan.”

Previous
Previous

Striking Attitudes : CUDD | UNDERCOVER

Next
Next

CRAFT FESTIVAL: CHELTENHAM