Striking Attitudes : CUDD | UNDERCOVER

 

Dyma’r tro cyntaf i mi weithio gyda chwmni dawns i ddylunio a gwneud blanced i fod yn rhan o’u perfformiad a’u gosodiad ar ffurf promenâd! Cwl!

“UNDERCOVER – A chronicle for our times, a response to the pandemic and climate change, a giant tapestry of stories in Welsh and English inspired by the Welsh blanket, from Welsh Creative Artists and Older Citizens, led by Artistic Director, Caroline Lamb with Janet Fieldsend and Aleksandra Nikolajev Jones.
A large-scale work from Striking Attitudes. A walk-through promenade-style performance and installation of Dance, Theatre, Photography, Poetry, Videography, Music and Textiles, in North and South Wales in Spring 2023.

Ma’ na gofnod hyfryd o’r perfformiad ar wefan Striking Attitudes yma, cymerwch olwg. Lluniau godidog gan Michal Iwanowski.

Roedd hwn yn gynhyrchiad enfawr gyda phrosiectau cymunedol, nifer o ffilmiau yn cael eu cynhyrchu yn ogystal â pherfformiad terfynol dros dri diwrnod yn Chapter, Caerdydd. I mi canolbwyntiais ar y prosiect cymunedol a oedd yn cael ei gynnal gan Iestyn Tyne. Bardd a oedd yn arwain gweithdai ysgrifennu creadigol yng ngogledd a de Cymru. Cymerais y geiriau oedd wedi'u hysgrifennu a'u hargraffu ar y flanced wedi'i wehyddu â llaw. Roedd y cerddi yn ymateb i’r pandemig yn ogystal â’n hinsawdd bresennol. Seiliais dyluniad y flanced yn fras o amgylch y syniad o ffenestri ac roeddwn am i'r geiriau lifo o bob ffenest i'r nesa’. Roeddwn wrth fy modd â'r syniad o ddefnyddio llawysgrifen yr unigolion ar gyfer y printiau.

Roedd y perfformiad yn un pwerus, diddorol ac amrywiol. Dwi wir yn gobeithio fod y garthen wedi adio at y perfformiad, gan edrych ‘mlaen i weld os allwn gyd weithio eto.

 
Previous
Previous

CANOLFAN MILENIWM CYMRU : FFWRNAIS

Next
Next

Llif / بہاؤ / Flow