GŴYL GREFFT: BOVEY TRACEY

 

Gŵyl Grefft: Bovey Tracey. 9-11 Mehefin 2023

Dwi nôl ar ol benwythnos bendigedig o braf yn Nyfnaint yng Ngŵyl Grefft: Bovey Tracey ( a ma’r saeson yn meddwl bo’ da ni enwau od!) Roeddwn i’n ddigon ffodus i fod yn dangos gyda grŵp gwych o wneuthurwyr o Design Nation: Wales and South West. Rydym ni gyd yn aelodau o Design Nation (“a leading portfolio for designer-makers based in the uk who create craft, design and product.”) Ni’n cyfarfod unwaith y mis i drafod yr hyn rydyn ni’n gweithio arno, i rannu unrhyw newyddion, podlediadau/ffilmiau/teledu/llyfrau neu be’ bynnag sy’n dal ein llygad.
Fe benderfynon ni ddod at ei'n gilydd i ddangos yn yr Ŵyl Grefftau eleni ac gafo ni tridie gwych.
Ar ôl llawer o gyfarfodydd zoom, roedd naw ohonom ni yn dangos, Alison Shelton Brown, Bronwen Gwillim, Cat MacKenzie, Hanny Newton, Judi Archer, Kim Colebrook, Laura Thomas, Lindsey Mann, a minnau.
Roedd gennym ein gofod ein hunain o fewn y babell a rennir. Fe wnaethon ni sefydlu, arddangos, siarad, gweld nifer helaeth o wneuthurwyr talentog, dawnsio yn y ceilidh lleol, ennill raffl, wrth fy modd! Ar y cyfan penwythnos da i'r unig.

 
 
 
Previous
Previous

DECOREX

Next
Next

CANOLFAN MILENIWM CYMRU : FFWRNAIS