BLOC: SIARCOL
Dechreuodd y dyluniad yma ar gyfer brethyn dwbl, sef brethyn sydd wedi’i wehyddu ar yr un pryd i greu brethyn dwy haen. Roeddwn i eisiau dylunio ffabrig a oedd yn drawiadol ar y ddwy ochr, ond heb y pwysau o ffabrig dwy haen.
Dyma lle ddaeth BLOC yn fyw; brethyn sengl (un haen) gyda dyluniad cyferbyniol ar y ddwy ochr. Mae'n frethyn gwlân, yn hynod o gynnes ac yn feddal iawn ar y croen. Mae gan un ochr ddyluniad siec anghymesur, a’r ochr arall yn dangos patrwm bloc cynnil.
Ar ôl gwehyddu samplau ar fy ngwŷdd i brofi lliwiau a phwysau amrywiol, fe es i a'r dyluniad i’r felin leol. Yn dilyn trafodaethau manwl gyda gwehyddion y felin, datblygwyd a cwblhawyd y dyluniad.
Os hoffech siarad ymhellach cyn archebu, cysylltwch â fi â chroeso.
Lliw: Jet, Siarcol, Niwtral ac Ambr
Tua 150 x 190 cm (Os oes gennych ddiddordeb mewn dimensiynau mwy, cysylltwch)
100% Gwlân
Os oes rhaih, golchwch â llaw mewn dŵr cynnes neu sychlanhau
Gorffenwyd â llaw yng Nghymru