CLUSTOG SGWÂR BLOC: TERRACOTTA

from £68.00

Dechreuodd y dyluniad yma ar gyfer brethyn dwbl, sef brethyn sydd wedi’i wehyddu ar yr un pryd i greu brethyn dwy haen. Roeddwn i eisiau dylunio ffabrig a oedd yn drawiadol ar y ddwy ochr, ond heb y pwysau o ffabrig dwy haen.
Dyma lle ddaeth BLOC yn fyw; brethyn sengl (un haen) gyda dyluniad cyferbyniol ar y ddwy ochr. Mae'n frethyn gwlân, yn hynod o gynnes ac yn feddal iawn ar y croen. Mae gan un ochr ddyluniad siec anghymesur, a’r ochr arall yn dangos patrwm bloc cynnil.

Ar ôl gwehyddu samplau ar fy ngwŷdd i brofi lliwiau a phwysau amrywiol, fe es i a'r dyluniad i’r felin leol. Yn dilyn trafodaethau manwl gyda gwehyddion y felin, datblygwyd a cwblhawyd y dyluniad.

SYLWER: Mae pob gorchudd clustog yn unigryw gan fod y patrwm fod yn wahanol. Ni ellir gwarantu patrwm union fel y ddelwedd. Isod mae opsiwn i gael cefn lliain i’r gorchudd. Os hoffech siarad ymhellach cyn archebu, cysylltwch â fi â chroeso.

  • Lliw: Terracotta, Oren tywyll a Niwtral

  • Tua 18" x 18" (45 x 45cm)

  • 100% Gwlân a llenwad plu o ansawdd uchel (gweler yr opsiwn i archebu heb llenwad)

  • Gellir archebu i gael cefn lliain ir gorchudd (gweler yr opsiynau)

  • Os oes angen, golchwch â llaw mewn dŵr cynnes

  • Gorffenwyd â llaw yng Nghymru

Gorchudd:
Llenwad:
Quantity:
Add To Cart