HAFAL

£675.00

Mae 'Hafal' yn ddarn o frethyn dwbl wedi'i wehyddu â llaw a gafodd ei wehyddu ar gyfer arddangosfa unigol ym MOMA Machynlleth yn haf 2024.
Ar gyfer yr arddangosfa 90°, roeddwn eisiau amlygu harddwch y broses o wehyddu, lle mae'r ystof a'r anwe yn dod yn un ar ongl 90°. Roeddwn eisiau tynnu sylw at gyfyngiad gwehyddu, gan weithio gyda llinellau fertigol a llorweddol. Dyluniwyd pob darn yn unigol gan wneud y garthen yn hollol unigryw. Gan ddefnyddio gwlân o'r ansawdd uchaf, mae pob un wedi ‘u wehyddu â llaw. Mae gweithio gyda gwlân yn caniatáu i mi greu darnau sydd yr r’un mor gynnes a charthen Gymreig draddodiadol ond yn llawer ysgafnach. Mae’r gwaith wedi'i ddylunio gydag ymdeimlad cryf o berthyn, gan ddefnyddio siapiau geometrig i greu blancedi bywiog a chyfoes. Bandiau cyferbyniol o liw a streipiau amrywiol oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y broses dylunio. Ma’ gennai ddiddordeb yng nghyfyngiadau offer ‘syml’ a’r hyn a all ddod o’r cyfyngiadau a osodir. Fel gwehydd profiadol a chreadigol dwi’n gallu defnyddio fy nwylo a’m llygaid i greu defnydd cyfoes gyda’r nod o greu brethyn pwrpasol i’w drin, i’w ddefnyddio ac i’w garu o genhedlaeth i genhedlaeth.

Wedi eu gwehyddu â llaw yn fy stiwdio ar wŷdd ‘dobby’ draddodiadol; gall yr hyn sy'n edrych fel hen ffrâm bren greu brethyn cyfoes.Dyluniwyd pob blanced yn unigol gan wneud y garthen yn hollol unigryw. Wedi eu ddylunio gydag ymdeimlad cryf o berthyn, gan ddefnyddio siapiau geometrig i greu blancedi bywiog a chyfoes ar gyfer eich cartref.

Os hoffech siarad ym mhellach, cysylltwch i ni cael trafod.

  • Wedi'i wehyddu â llaw

  • Lliw: Siarcol, Lliain, Naturiol a Glas

  • Tua 130 × 195 cm

  • 100% Gwlân Prydainig

  • Os oes angen, golchwch â llaw mewn dŵr cynnes neu sychlanhau.

Add To Cart