STREIP
Cychwynodd y casgliad yma gyda blancedi gwlân Cymreig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn dilyn sawl ymweliad â'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Dre-fach Felindre, roedd y casgliad o flancedi yn sail clir i fy syniadau creadigol. Bandiau cyferbyniol o liw a streipiau amrywiol oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y broses dylunio. Mae gen i ddiddordeb yng nghyfyngiadau offer ‘syml’ a’r hyn a all ddod o’r cyfyngiadau a osodir.
Wedi eu gwehyddu â llaw yn fy stiwdio atig ar wŷdd ‘dobby’ draddodiadol; gall yr hyn sy'n edrych fel hen ffrâm bren greu brethyn cyfoes.
Dyluniwyd pob blanced yn unigol gan wneud y garthen yn hollol unigryw. Gan ddefnyddio gwlân o'r ansawdd uchaf, mae pob un wedi ‘u gwehyddu â llaw. Mae’n cymeryd sawl diwrnod i osod y gwŷdd, ac yna oriau o wehyddu. Mae gweithio gyda gwlân yn caniatáu i mi greu blancedi sydd yr r’un mor gynnes a ‘charthen’ Gymreig draddodiadol ond yn llawer ysgafnach. Wedi eu ddylunio gydag ymdeimlad cryf o berthyn, gan ddefnyddio siapiau geometrig i greu blancedi bywiog a chyfoes ar gyfer eich cartref.
Os hoffech siarad ym mhellach, cysylltwch i ni cael trafod.
Wedi 'i wehyddu yn Aberystwyth
Lliw: Rhuddem, Mafon, Nefi, Glas Golau, Siarcol a Coch
Tua 133 x 180 cm
100% Gwlân
Os oes rhaid, golchwch â llaw mewn dŵr cynnes